2011 Rhif  2686 (Cy. 288)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008. Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny yn rhagnodi sut y mae darpariaethau Rhan II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i’w cymhwyso i bersonau sy’n darparu gwasanaethau deintyddol preifat. Diwygir rheoliad 2 i wneud yn glir fod darpariaethau’r Ddeddf honno yn cynnwys unrhyw ddarpariaethau a ddichon, o bryd i’w gilydd, gael eu diwygio. Diwygir rheoliad 3 er mwyn neilltuo deintyddion penodol, sy’n gweithio dan amodau cymhwyso, rhag bod yn rhagnodedig ac felly rhag bod Rhan II o’r Ddeddf yn gymwys iddynt. Codir y ffioedd sydd i’w talu o dan y Rheoliadau o £50 i £75. Mae rheoliad 4A yn addasu adran 31 o’r Ddeddf i ddarparu, pan fo’r Ddeddf yn caniatáu i glaf gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol neu nyrs gofrestredig, y caiff yr archwiliad gael ei wneud gan ddeintydd yn achos claf deintyddol. Mewnosodir rheoliad 16A i wneud hunan-asesiad, monitro’r ddarpariaeth o wasanaethau ac adroddiad blynyddol yn ofynnol. Diwygir rheoliad 19 i gynyddu’r darpariaethau rheoleiddiol y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd.


2011 Rhif  2686 (Cy.288 )

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed                              Tachwedd 6 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       Tachwedd 9 2011

Yn dod i rym                           1 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau  12(2), 16(3), 22(2)(d), 25(1), 33 a 42(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000([1]) ac wedi ymgynghori â phersonau a ystyrir yn briodol ganddynt([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2012.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2008([3]).

Diwygio Rheoliadau 2008

2.(1)(1) Caiff Rheoliadau 2008 eu diwygio yn unol â darpariaethau’r rheoliad hwn.

(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) yn y diffiniad o “y Ddeddf” (“the Act”) ar ôl y geiriau “Deddf Safonau Gofal 2000” mewnosoder y geiriau “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

(3) Yn rheoliad 3 (Personau rhagnodedig)—

(a)     ym mharagraff (1) yn lle “Mae deintydd” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae deintydd”;

(b)     ym mharagraff (2) yn lle “addasiad a bennir yn rheoliad 4” rhodder “addasiadau a bennir yn rheoliadau 4 a 4A”;

(c)      ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddeintydd—

(a)   sydd ar restr arbenigol y gofrestr deintyddion, ac sy’n cael ei gyflogi i ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â’r arbenigedd honno yn un o ysbytai’r gwasanaeth iechyd ac sy’n darparu gwasanaethau deintyddol preifat yn yr ysbyty hwnnw’n unig;

(b)   sy’n darparu gwasanaethau deintyddol preifat mewn ysbyty ac at ddibenion yr ysbyty hwnnw’n unig y mae person wedi cofrestru mewn perthynas ag ef o dan Ran II o’r Ddeddf; neu

(c)   sy’n darparu gwasanaethau  deintyddol  preifat o dan gontract hyfforddiant galwedigaethol yn unig ac sydd wedi gwneud cais i gofrestru o dan Ran II o’r Ddeddf na chafodd ei dynnu’n ôl na’i waredu’n derfynol o fewn ystyr rheoliad 23(3);

 (ch)  yn is-baragraff (c) uchod mae i “hyfforddiant galwedigaethol” yr un ystyr ag sydd i “vocational training” yn rheoliad 28 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004([4]).”.

(4) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—

Addasu adran 31 o’r Ddeddf (Arolygiadau gan bersonau a awdurdodir gan yr awdurdod cofrestru)

4A. Mae adran 31(5)(a) yn cael effaith megis petai i’w darllen:

“is a medical practitioner, registered nurse or dentist; and”

(5) Yn y rheoliadau canlynol yn Rheoliadau 2008 yn lle £50 rhodder £75—

(a)     5(1)(d);

(b)     10(2)(d); ac

(c)     17.

(6) Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—

“Asesu a monitro ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan gynnwys adroddiadau blynyddol

16A.—(1) Rhaid i’r person cofrestredig—

(a)   asesu a monitro’n rheolaidd ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn erbyn y gofynion a osodir yn y Rheoliadau hyn; a

(b)   nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n ymwneud ag iechyd, lles a diogelwch cleifion ac eraill.

(2) Rhaid i’r person cofrestredig anfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru, pan ofynnir iddo wneud hynny, asesiad blynyddol ysgrifenedig (y cyfeirir ato fel yr “adroddiad blynyddol”) yn gosod ar glawr—

(a)   amrediad y gwasanaethau a ddarparwyd yn y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad blynyddol ac unrhyw newidiadau a ragwelir i’r amrediad hwnnw; a

(b)   sut, ac i ba raddau, ym marn y person cofrestredig, y cydymffurfir â gofynion paragraff (1), ynghyd ag unrhyw gynlluniau sydd gan y person cofrestredig i godi safon y gwasanaethau a ddarperir i gleifion gyda golwg ar sicrhau eu hiechyd a’u lles.

(3) Rhaid i’r person cofrestredig gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw’r adroddiad blynyddol yn gamarweiniol nac yn anghywir.

(4) Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu’r adroddiad blynyddol i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru o fewn 28 niwrnod o gael cais i wneud hynny o dan baragraff (2).”.

(7) Yn rheoliad 19 yn lle “9 ac 14 i 16” rhodder “6, 7, 9, 14-16A ac 18”.

 

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths

 

 

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

Tachwedd 6 2011



([1])           2000 p.14. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([2])           Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) am y gofyniad i ymgynghori.

([3])           O.S. 2008 Rhif 1976 (Cy.185).

([4])           O.S. 2004 Rhif  1020 (Cy.117).